Tudalen:Gwaith Huw Morus.pdf/5

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhagymadrodd

Ganwyd Huw Morus yn amaethdy Pont y Meibion, Glyn Ceiriog, yn 1622; bu farw yno, Awst 31, 1709, a chladdwyd ef wrth fur eglwys Llansilin.

Ychydig o ffeithiau sicr ei fywyd sydd ar gael; ond casglwyd, o dro i dro, lawer o hanesion am dano oddiar lafar gwlad.

Bu'n brentis i farcer yn Owrtyn, ar wastadedd sir Fflint; ond dychwelodd i drin tyddyn ei dad, ac ym Mhont y Meibion y treuliodd ei oes faith.

Yn ol un traddodiad, yn ystod ei brentisiaeth ym Maelor Saesneg yr ymwelodd yr awen gyntaf ag ef. Cysgodd, ryw hirddydd haf, dan Iwyfen gysgodol. Pan gysgodd, nid oedd ond prentis barcer; pan ddeffrôdd, teimlai fod yr Awen wedi cyffwrdd ei wefusau, a'i fod yn fardd.

Yr oedd ei awen yn ffrwythlon nodedig. Dywedodd lolo Morgannwg wrth David Samwell[1] fod Gwilym Hywel o Lanidloes wedi casglu tri chant o i ganeuon. Ar lafar gwlad ac mewn ysgrif y cedwid y rhain hyd yn gydmarol ddiweddar.[2] Ymddanghosodd pedair yn y "Carolau a Dyriau Duwiol " yn 1720; chwech a deugain yn y Blodeugerdd," yn 1779; deunaw o

  1. O ysgrif David Samwell yn y " Cambrian Register," Cyf. I. (1795) tudalennau 426—439, y codir bron bob ffaith am Huw Morus nad awgrymir gan ei gerddi ef ei hun. Yr oedd David Samwell yn fardd ei hun, yn orwyr i Edward Samuel, ac yr oedd g'yda'r Capten Cook pan laddwyd ef yn Ynysoedd Môr y De.
  2. Gydag ychydig eithriadau. Ymddanghosodd rhai yn "Llyfr Ffoulk Owen" (Rhydychen, 1686); cyhoeddodd Thomas Jones rai ereill yn y Mwythig, yn 1696. (" Eos Ceiriog." Cyf. I. xvii).