Tudalen:Gwaith Huw Morus.pdf/6

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwyddau, 130 o gerddi, a 229 o englynion, yn "Eos Ceiriog," casgliad Gwallter Mechain, yn 1S23. Y mae llawer eto, yn cynnwys rhai o'r cerddi tlysaf, heb eu cyhoeddi.

Eu melusder hyawdl yw prif swyn cerddi Huw Morus. O'r dechreu i'r diwedd nid oes ball ar felodedd "y gân rwyddlan ireiddlwys." At eu canu yr ysgrifenwyd hwy; wrth godi y rhai sydd yn y gyfrol hon o ysgrif lyfrau, cofiwn am danynt, linell ar ol llinell, fel y clywais eu canu gan hen bobl ryw chwarter canrif yn ol. Apeliai Huw Morus yn rymus at y serch ac at y gydwybod,— nid rhyfedd fod ei gerddi'n aros mor hir ar gof gwlad. Canodd gerddi serch nad oes eu tlysach yn yr iaith; addolai ferch dlos o bell, ond ni phriododd yr un. Condemniodd bechod, yn enwedig trachwant ac oferedd, ar adeg yr oedd cydwybod gwlad eto 'n dyner oherwydd y deffroad Puritanaidd, ac ar adeg y gwneid trawsder oherwydd cyfleusterau'r cyffroadau a'r ansicrwydd gwleidyddol. Daeth cerdd Huw Morus yn llais bywyd goreu ei wlad; fel y dywed Edward Samuel yn ei farwnad,[1]

"Gwae Bowys ffracthlwys ffrwythlawn,
Ei bod heb dafod y dawn."

Cydoesodd Huw Morus a phob teyrn o lin Stuart,—James I, Charles I, Charles II, James II, William a Mary, ac Anne. Yr oedd yn Freniniaethwr ac Eglwyswr cyson, a thueddai at Doriaeth os nad at Jacobyddiaeth. Dengys y gerdd "Yr Hen Eglwys Loeger " mai gwir a ddywedai Edward Samuel,—

  1. Ymddangosodd yn llyfr Hugh Jones o Langwm. Dewisol Ganiadau yr Oes Hon " (tud. 73—78). Cwyna David Samwell fod cywydd ei daid wedi ei hargraffu yn dra anghywir.