Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Huw Morus.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Gwrth'nebydd dedwydd ei dôn,
Cry dig-, i'r Caradogion;
A gelyn cyndyn ei caid,
Clau fynwes, i'r Calfìniaid."

Y mae'r cerddi yn nhafodiaith Powys, fel yr ysgrifennodd Huw Morus hwy, ac fel y cenid hwy ar lafar gwlad. O leiaf, y mae pob cân fel y cefais hi yn y llawysgrif hynaf. Dywedai Huw Morus "ened " ac "eneidie", ond defnyddiai ffurfiau llyfr ambell dro. Nid yw yn hawdd bob amser wybod sut i ysgrifennu llinell, megis

"A cheisiwch anghenred i'r ened ych hun."

Byddaf yn dilyn y llawysgrif, sut bynnag y bydd, os yn gynharach na 1750. Gwelir mai cerddi serch a marwnad, cerddi'n desgrifio bywyd pob dydd, yn hytrach na cherddi ar faterion pwysig a chyffrous y cyfnod hynod y bu Huw Morus byw trwyddo, welir yn y gyfrol hon. Dengys cerddi ereill, i ymddangos yn y gyfrol nesaf, beth oedd ei feddwl o gwestiynau politicaidd ei ddydd,—megis y Werinlywodraeth, dechreuad Ymneillduaeth, adferiad y brenin, prawf Algernon Sidney, gwladlywiaeth eglwysig lago, a gwladlywiaeth dramor William y Trydydd.

Dymunaf ddiolch yn wresog am gynhorthwy, trwy gael benthyg ysgriflyfrau neu wybodaeth am danynt, i Richard Williams, F.R.H.S., y Drefnewydd; J. Gwenogfryn Evans, M A., D.Lit., Rhydychen; R. H. Evans, Arosfa, Llanrhaiadr ym Mochnant; J. Glyn Davies, y Llyfrgell Gymraeg, Aberystwyth; Carneddog, Nantmor, Beddgelert; a'r Parch. J. T. Alun Jones, y Coleg Duwinyddol, y Bala.

OWEN M. EDWARDS

LLanuwchlyn .
Medi i5 1902.