Sion Owen Delynor
MARWNAD SION OWEN.[1]
Anwyl Syr.[2]—E dderyw im', mal y gwelwch, wneuthur Marwnad i Sion Ywain, fy nghyfaill a'm brawd-fardd. Diau fod yn ddrwg gennych glywed y newydd, ond, chwedl y bardd, "Ewyllys Duw yw lles dyn."
Mi a newidiais rai pethau yn y Traethawd Lladin am y Beirdd Brutanaidd, ac yr wyf yn meddwl y bydd raid im' newidiaw rhywfaint yn ychwaneg cyn y byddo gymwys i'w argraffu; o herwydd na fynnwn i neb o blant Alis gael lle i feio arno, na'n Cymry Seisnigaidd ni ein hunain ychwaith, y rhai sydd, mal y gwyddoch, o'r ddau yn goecach.
Y mae gennyf ddau gywydd o waith Sion Ywain, ac ateb a ddanfonais innau i un o naddynt o'm priodwaith fy hun; eithr nid oes gennyf gopi cywir o un o naddynt; o herwydd mi a berais iddaw newidio rhai pethau ynddynt, ac ni chedwais yr un o'r diwygiadau. Y mae gan eich brawd yng Nghaer Gybi gopïau cywirach. Gwell iwch ddanfon ato ef. Ond os gwelwch yn dda, rhag iwch dybied mai diogi sydd arnaf, chwi a gewch y rhai sydd gennyf fi, ar flaen gair, fal y maent.
Nid ydych yn dywedyd yn wahanredol beth yr ydych ar fedr ei brintio. Byddai dda gennyf glywed, mal y cymhwyswyf fy nhraeth-