awd yn well tuag at ei brintio o'u blaen ar ddull rhagymadrodd. Diau im' gymeryd poen wrthaw eisoes; ac mi a gymeraf fwy, os Duw a rydd im' iechyd. A ddanfonasoch at Mr. Wynn o Langynhafal? a pha ateb a gawsoch? Beth a ddywed Llewelyn am y printio yna? Gadewch im' gael ateb cyflawn yn eich llythyr nesaf, a chwi a foddhewch yn fawr Eich rhwymedicaf gyfaill a'ch gwasanaethwr, IEUAN FARDD.
NEWYDD ni a ddaeth,
Acherydd, a thrwch hiraeth;
Marw fu Sion (mawr fy syniad)
Owain ydoedd glain ein gwlad:
Bardd ieuanc, beraidd awen,
Coeth yn y Gymraeg hen.
Trist waith yw torri oes dyn
Enwog iawn yn eginyn.
Ei gof a bair im' ofal,
A gwaedd dost am guddio 'i dal.
Digrif-was aeth, dagrau sydd
I'n brodyr am wiw brydydd;
Galar mawr a gai lawr Mon,
A deu-gwrr Ceredigion,
A Chaer Ludd, chwerw fu y locs,
Ddyn anwyl, ddwyn ei einioes,
Nis oes gerdd, na dysg urddawl,
Na dawn i'n mysg yn dwyn mawl,
Ni wyddiad, gwiw-fad gyfoeth,
Hwn i'w ddydd yn gelfydd goeth.
Teilwng wrth ganu telyn
Oedd ei lais a'i ddwylaw yn'.