Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Ieuan Brydydd Hir.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Tywyllwch tew yw allan,
A chlog o gaddug achlân;
A ninnau'n drist a distaw,
Ac yn brudd mewn eigion braw,
Oer dynged, dan dudded du,
Filoedd yn ymbalfalu.

Colled afrifed fawr oedd,
Alarus i laweroedd.
Ei blant a gwynant ganwaith,
Chwerw yw y modd, a chur maith.
Duw Dad, mor amddifad ynt!
Dyro nawdd dirion iddynt.
Ei blwyf sy'n dwyn gofid blin
A garw am athraw gwerin;
Eu bugail aeth, heb gael oes,
Wr anwyl, i'r hir einioes;
I gael gan Ior hael ei ran
Fythol yn y nef weithian,
Mewn gwynfyd hyfryd a hedd
(Gwiw yw'r fael), a gorfoledd,
Ym mhlith saint, mewn braint a bri,
Glanwych, yng ngwlad goleuni,
Ac angylion gloewon glwys
Puredig fro Paradwys.
Moli'r Ion mewn gogoniant
Yw swydd a berthyn i sant;
Ei wych swydd yn dragwyddawl
Yn eu mysg yw canu mawl.
Gwyn ei fyd! hoff fywyd fydd,
A gai awen dragywydd.
Gwedi darfod in' rodiaw
O'r byd trwch i'r bywyd draw,
Duw nef a'n dyco hefyd,
Yno fyth, o hyn o fyd.