Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Ieuan Brydydd Hir.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

D. Jones o Drefriw
DEWI FARDD.

Trefriw, Ion. 14, 1761.

Anwyl Gyfaill,[1]— Myfi a ysgrifenais lythyr atoch es dyddiau yng nghylch llyfrau Dewi Fardd, ac ni chefais i nac yntau yr un ateb gennych. Dyma fi yn dyfod unwaith drachefn i'ch blino. Ertolwg, byddwch mor fwyn, er trugaredd, a golygu gronyn tuag at werthu ei lyfrau, o herwydd dyma ef dan gwynfan yn deisyf arnaf ysgrifennu atoch. Pur helbulus yw Dewi, druan, â gwraig a rhawd o blant bychain ganddo, sef chwech neu saith. Y mae yn achwyn bod arno ddyled, ac eisieu modd i dalu ei ardreth; ac am hynny y mae yn gobeithio yr ystyriwch wrtho. Dyma fi, yn ol fy addewid, yn ysgrifennu atoch, ac nid oes gennyf ddim ychwaneg i'w wneuthur.

Myfi a fum yng Ngloddaith, ac a welais y llyfrgrawn yno. Y mae yno lawer iawn o waith y beirdd diweddar, ond ychydig o waith y cynfeirdd. Y pethau mwyaf hynod oedd dau gopi o Frut y Breninoedd wedi eu hysgrifennu ar femrwn es pedwar cant o flynyddoedd o leiaf. Fo fu Syr Roesser mor fwyn a rhoi im' fenthyg y ddau uchod, ac y mae gennyf un arall gorhenaidd a fenthyciais o Lannerch. Y mae i'm bryd, os Duw a rydd im' iechyd (o herwydd afiachus iawn a fum y gauaf hwn) ddadysgrifennu un o naddynt; a diau yw, pei cawswn well iechyd, y buaswn fwy bywiog yng nghylch gorffenu y Traeth-

  1. Rhisiart Morys.