Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Ieuan Brydydd Hir.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

awd Lladin yng nghylch y Beirdd, ac ereill weithiau yr wyf wedi cynhullaw defnyddiau atynt. Ond y mae dolur anfad yn fy mhen yn fy llwyr ddihoeni, ac yn fy ngwneuthur yn gwbl anaddas i gymeryd y fath orchwyl yn Ilaw. Gobeithio nad ydych ddig wrthyf am beidio o honof ddanfon iwch y Traethawd uchod fal yr oeddwn yn arfaethu, o herwydd yr wyf yn gwybod ac yn gweled ei fod yn ammherffaith. Mi a allaf, wrth aros a chymeryd amynedd, daro wrth ddefnyddiau i'w orphen; ac os gwnaf, fo gaiff weled goleuni; ac onid e, fo gaiff fyned i dir anghof, lle y mae pob peth tan haul yn myned.

Mi a darewais yn ddiweddar wrth ddarn o waith Sion Dafydd Rhys, y Gramadegydd, yn ei law ei hun. Ateb ydyw i ragymadrodd Kyffin, a drodd lyfr Esgob Juell yn erbyn y Pabyddion o Ladin i Gymraeg, yn yr hwn ragymadrodd y mae Kyffin yn goganu'r iaith Gymraeg a'i haddysg a'i beirdd ond gwych yw gweled yr hen gorff yn cymeryd y pastwn yn llaw, ac yn ei gystwyo mal ag y dylai. Gresyn ei fod yn ammherffaith, sef heb y dechreuad. Y copi cyntaf a ysgrifennodd ydyw, ac y mae wedi ei interlinio, a llawer gwedi ei groesi allan a'i newid, a darnau o bapurau wedi eu pinio wrth gorff y dalennau yma ac acw. Y mae i'm bryd ddadysgrifennu hwn hefyd.

Nid oes gennyf ddim rhyfedd arall i'w ysgrifennu atoch; ac yn wir, pe cawswn iechyd, myfi a fuaswn yn cadw close correspondence â chwi a'ch brodyr; ond o herwydd fy mod, gobeithio er daioni im', yn cael fy nghospi yn