Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Ieuan Brydydd Hir.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y byd hwn, ni allaf gyrraedd cymaint o dded- wyddwch a diddanwch ag a ellych chwi a'ch llythyrau roddi im'. Ond y mae yn rhaid imi foddloni fal ag yr wyf, ac addef gyda'r bardd mai

Ewyllys Duw yw lles dyn.

Ond rhag ofn i chwi debygu i mi anghofio mai ysgrifennu llythyr ac nid pregeth yr oeddwn, mi a derfynaf, ac a'ch gorchymynaf i nawdd y Goruchaf.

Yr eiddoch yn garedig,

EVAN EVANS.

AWEN IEUAN.

Llanfair Talhaiarn, Medi 4, 1762.

Anwyl Gyfaill.[1]—Cefais eich llythyr ddydd Sul diwethaf, a dyma finnau yn danfon ateb iddo cyn diwedd yr wythnos, ac eilun o gywydd i'w ganlyn. Diau yw nad oes gennyf flas nac awch yn y byd i ganu; ond, i ufuddhau i'r Llywydd, mi frasneddais rywbeth, herwydd fy mod yn rhwymedig iddo. Dywedwch wrtho fod yr Awen gennyf ar drengu, ac nad oes yng ngallu physigwriaeth ei hadfywio. Ac, mal y mae'r byd yn myned yr awron, ni waeth fod gan ddyn wilog arall na hithau. Yr oedd, gwir yw, yn llances landeg bropr pan y cefais i hi gyntaf; ond beth a dâl hynny? Yr oedd ei chynhysgaeth i gyd am dani, ac ni feddai geiniog yn ei phwrs. Nid oedd neb o'r gwŷr mawr yn ei pherchi, a braidd nad

  1. Mr. William Morris.