Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Ieuan Brydydd Hir.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oeddwn fy hun yn cael anair o'i phlegid; ac am hynny mi ddywedaf am dani yn lle marwnad, fal y dywed Dryden:

"Here lies Awen, here let her lie;
She is at rest, and so am I."

EVAN EVANS


CYWYDD I GROESAWU GENEDIGAETH TYWYSOG CYMRU.[1]

Y RYWIOG gerddgar Awen,
Berw-ddawn hardd y beirddion hen,
Chwareu gainc a chywir gân
O brydyddiaeth brau diddan;
Taro â dwylo'r delyn
Yn glau, dadseinied pob glyn;
Pair i holl Gymru ruo
Y braint a gafodd ein bro,
Eni iddi hi a'i hiaith
Bor teilwng biau'r talaith.
Maban a haeddai glân glod,
A henyw o waed hynod;
Mab Sior, brenin goror gain,
Paradwys, Ynys Prydain;
A'i gynnes frenines hoew,
Siarlot â'r fynwes eur-loew.
Milwr fydd essillydd Sior
I ymwan mewn hawddamor;
Ar Ffranc y gwna ddifancoll,
Dydd a ddaw, a diwedd oll.


  1. Wedyn Sior IV. Ganwyd ef Awst 12, 1762.