Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Ieuan Brydydd Hir.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A chalon ddiocheliad
A chwydd pan gyffwrdd â châd;
Ail Arthur waew dur dorri,
Ddyledawg, ruddfawg ri,
Y gwawr wrth Faddon fawr fu
Ym mynydd yn ymwanu;
Pan fu dial ar alon,
A Sais yn isel ei son.

Cynnydd, Dywysog ceinwych,
A dedwydd beunydd y bych;
Mewn campau a doniau da
I anrhydedd iawn rhodia.
Hyfforddiad dy dad odiaeth
A'th fam (godidog yw'th faeth!)
A'th arwain, fy nghoeth eryr,
Mewn bri i ragori gwŷr.

Pan el Sior, ein hior, mewn hedd,
Wiw deyrn, yn y diwedd,
Ar ddir hynt o'r ddaiar hon
I gyrraedd nefol goron,
Aed y mab ffynadwy mawr
I Brydain yn Briodawr.


WEDI MEDDWI A SOBRI.

CYDWYBOD meddwdod nis myn—ond amhwyll
Ar domen y gelyn;
Gorffwyllo, dawnsio mae dyn,
A'r diawl yn canu'r delyn.