YR ESGYB EINGL.
ANWYL Gyfaill,[1]—Myfi a dderbyniais yr eiddoch o ddiwedd mis Mai o'r drydedd eisteddiad, ac y mae yn dda iawn gennyf glywed eich bod yn fyw, ac yn ddrwg gennyf nad ydych yn mwynhau eich cyflawn iechyd: o herwydd nad adwaen i yr un Cymro a wnaeth fwy o les i'w wlad a'i iaith nog a wnaethoch chwi, er amser euraid y Frenhines Elsbeth; pryd yr oedd gennym Esgyb o'n cenedl ein hunain a fawrygent yr iaith a'i beirdd, ac a ysgrifenent lyfrau ynddi er mawrlles eneidiau gwŷr eu gwlad. Pan (Duw a edrycho arnom!) nad oes gennym y to yma ddim ond rhyw wanccwn diffaith, tan eilun bugeiliaid ysprydol, y rhai sydd yn ceisio ein difuddio o ganwyllbren gair Duw yn ein hiaith ein hunain; er bod hynny yn wrthwyneb i gyfreithiau ac ystatut y deyrnas. Da y proffwydodd Merddin Wyllt am danynt:
Oian a borchellan bydan a fydd
Mor druan ei ddyfod ag ef ddyfydd, &c.
Escyb anghyfieith diffeith diffydd.
Os byw fydd rhai, ef a gaiff y gwarthus ymddygiad yma ei lym argyhoeddi, a'i ymliw er mefl iddynt yng ngwydd y byd. Digon gair i gall. Myfi a glywaf fod gwŷr Mon am ddeol y Sais brych a dderchafwyd i fod yn Berson Trefdraeth i'w wlad ei hun, a'u bod wedi ei droi allan o'r Ysgol y Beaumares eisoes,
- ↑ Mr. Rhisiart Morys