o herwydd ei fod yn wr priawd, yr hyn sydd wrthwyneb i ewyllys y sawl a'i cynnysgaeddodd gyntaf; ac myfi a glywais hefyd fod John Thomas, usher Bangor, fy nghyfaillt, yn ymwneuthur am yr ysgol; a phoed gwir a fo'r chwedl, a llwyddiant iddo, er mefl i'r Esgob a Suddas. Am danom ni yn yr Esgobawd yma y mae'r Escob yn cael gwneuthur a fynno yn ddiwarafun; sef y mae, megys Pab arall, wedi derchafu tri neu bedwar o neiaint i'r lleoedd goreu, lle yr oedd Cymry cynhenid gynt yn gweinyddu, ac ni chaiff y curadiaid danynt ddarllen mo'r Gymraeg: ac myfi a glywais hefyd ddywedyd yn ddiweddar fod dau Sais arall yn Sir Drefaldwyn, mewn dwy eglwys a elwir Castell ac Aber Hafesb, yn darllen Seisoneg yn gyfan gyfrdo drwy gydol y flwyddyn, er nad oes mo hanner y plwyfolion yn deall nac yn dirnad dim ag a draethir ganddynt. Duw a ddelo ag amseroedd gwell, ac a atalio ar eu rhwysg, rhag iddynt andwyo eneidiau dynion dros fyth!
Y mae'r Ymwahanyddion o'r achos yma yn taenu yn frith ac yn aml dros holl wyneb Cymru. Ac y mae'r Methodistiaid wedi cynnyddu yn ddirfawr yn ddiweddar yn Neheudir Cymru, ac yn y wlad hon hefyd, yn gyfagos i'r Personiaid Eingl uchod.
Gwedi darfod y gwres angerddol ag y mae'r Poethyddion hyn yn feddiannol o hono yr awron, y mae arnaf ofn yr a corff crefydd yn gelain oer o'r diwedd, er yr holl grio, a'r gwaeddi, a'r crochlefain, ie, a'r bonllefain sydd i'w mysg yr awron. Gresyn yw fod yr