annhrefn yma wedi tyfu oddi wrth y gwŷr eglwysig eu hunain, y rhai, lawer o naddynt, ni fedrant na darllen na phregethu, chwaithach iawn ysgrifenu yr iaith y maent yn cael eu bywiolaeth oddi wrthi. Y mae arnaf ofn fod Rhagluniaeth y Goruchaf wedi arfaethu yr Ymwahanyddion i fod unwaith eto yn fflangell i'n Heglwys, o herwydd yr anfad lygredigaethau yma o eiddo'r gwŷr llên yn ein mysg (os iawn eu galw felly), megys ag y buont o'r blaen.
Myfi a drof weithian oddi wrth y testun pruddaidd hwnyma at rywbeth mwy diddan. Da iawn gennyf eich bod o ddifrif yn myned yng nghylch gorchwyl mor llesawl i'n gwlad ag argraffu y Llyfr Gweddi Gyffredin mawr i'r eglwysydd. Y mae dirfawr eisiau o hono mewn llawer eglwys yng Nghymru. Duw a roddo iwch iechyd i weled ei orffen, ie, a'r Biblau mawr hefyd, o herwydd y mae'r rhei'ny yn amherffaith ac yn ddrylliog mewn amryw lannau. Da iawn hefyd a fyddai pei gellych ail gyhoeddi Llyfr y Resolution, a'r Llwybr Hyffordd i'r Nefoedd.
Ni feddyliais i erioed fod y carnlleidr o Langwm cynddrwg, er i mi fynegi i'ch deu-frawd fwy nog unwaith nad ymddiriedent ormod iddo, o herwydd nad oes iddo mo'r gair da gan y sawl a'i hadwaen yn dda. Myfi a roddais iddo fy holl waith fy hun mewn prydyddiaeth Gymraeg, er mwyn eu hargraffu, es mwy no dwy flynedd, ac ni chlywais oddi wrtho o'r dydd hwnnw hyd heddyw, ac ni waeth gennyf a glywyf oddi wrtho ef na'i fath fyth.