Y mae Nennius yn aros yn yr un gywair a dylif ag yr oedd gennyf. Nid oes gennyf ddim i wneuthur ond cyfleu y nodau pan elwyf yng nghylch y gwaith o ddifrif. Myfi a fum y gauaf diweddaf yn dra afiachus gan y tostedd, a'r gwaew yn y pen, ac onid e, e fuasai wedi ei ddadysgrifenu cyn no hyn.
Am drefnu fy llyfr arall i'w ail brintio, hynny ni wnaf fi fyth, o herwydd i'r Seison anafu'r llall yn yr enwau Cymreig mor gywilyddus yn yr argraffiad cyntaf. Am waith awduraidd Taliesin, Llywarch Hen, Aneurin Wawdrydd, a'u cydoesiaid, nid oes neb a fedr eu deongl yn ein dyddiau ni. Y mae iaith y prydyddion a gyfieithais i yn ddigon dyrys, mal y gwyddoch.
Y mae yn dda gennyf glywed fod Mona Antiqua Restaurata yn cael ei dadeni drwy law mor gelfydd ag eiddo'r Dr. Owain. A oes modd i gael un o naddynt heb arian ac heb werth? Nid oes yma ddim mwnai i'w gael gan guredyn llymrig. Gresyn na byddai modd i drefnu Geiriadur y Dr. Davies, a'r Celtic Remains o eiddo'ch brawd, a'u rhoi i'r wasg. Myfi a welais rai mân draethodau ganddo wedi eu gorffen yn berffeith-gwbl, sef Amddiffyniad Hanes Tyssilio yn erbyn Milton, Camden, Nicolson, ac ereill. A ddaeth y rheiny i'ch llaw? Myfi a welais waith Mr. Pennant : gorchestol iawn ydyw. Newidiwch y llinell ganlynol ym Marwnad eich brawd Lewis yn y wedd hon:
Yn lleMor frwd oedd ei ammur fron.
DarllenwchMor frwd ei ddiainmur fron.