yn ei feddwl, pan ddywed am ei berchenog:
Ef yw'r gwr goreu o Grug Eryr
Oddi yno mi aethum drannoeth i ymweled â chyd-golegydd im'; ond, fal yr oedd mwyaf yr anffawd, nid oedd mo hono gartref; ac onid e, ysgatfydd, nad aethwn ddim pellach. Oddi yno, ym mhen dau ddiwrnod, mi a gychwynais tua thref Aber Teifi, man na buaswn erioed o'r blaen. Oddi yno mi a gymerais hynt i eithaf Dyfed, i dref Hwylffordd, lle y gwelais lawer o anrhyfeddodau; sef, hen leoedd y darllenaswn am danynt ym Mrut y Tywysogion, a'r Beirdd; ac ym mysg ereill, Castell Llan Huadain, hen waith gorchestol. Mi aethum oddi yno i Lacharn at Mrs. Bevan, yr hon a'm anrhegodd â holl waith printiedig Mr. Gruffudd Jones. Oddi yno myfi a gyfeiriais tua Chaer Fawr Fyrddin, ar oddeu argraffu Cydfod yr Ysgrythyrau Santaidd; ond methu arnaf gytuno â Mr. Ross, o herwydd nad allwn glywed ar fy nghalon ymddiried i neb am ddiwallu'r wasg, oddigerth fy mod i fy hunan yn gyfagos i fwrw golwg arno. Diau mai argraffydd da ydyw, ac y mae llawer o lyfrau wedi dyfod allan o'i wasg, ac yn gywirach nag yr oeddwn i yn meddwl, ac iaith rhai o honynt yn buraidd ddigymysg. Y mae yn myned yng nghylch printio'r Bibl Cysegrlan â Nodau arno, yr hwn sydd i ddyfod allan bob wythnos, yr un wedd a chyda chwi yn Llundain. Myfi a welais y proposals. Un o'r Methodyddion yw'r gwr sydd wedi cymeryd y gorchwyl gorchestol hwn yn llaw; ei enw, Peter Williams. Ond yw hyn yn gywilydd wyneb i'n gwŷr llên