Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Ieuan Brydydd Hir.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ni o Eglwys Loegr! Y mae Rhagluniaeth Duw ym mhob oes yn cyfodi rhai dynion da. Ni waeth pa enw yn y byd a fo arnynt. Oddi wrth ei ffrwyth yr adnabyddir y pren. Y mae yn dra hynod fod yr ychydig lyfrau Cymreig ag sydd argraffedig, wedi cael eu trefnu a'u lluniaethu, gan mwyaf, gan Ymwahanyddion, ac nad oes ond ychydig nifer wedi eu cyfansoddi gan ein hyffeiriaid ni es mwy na chan mlynedd; a'r rheiny, ysywaeth, yn waethaf o'r cwbl o ran iaith a defnydd. Y mae St. Paul yn dywedyd mai "yr hyn a hauo dyn, hynny hefyd a fêéd efe." Ni ddichon fod ond cnwd sal oddi wrth y cynhaeaf ysprydol pan fo'r gweithwyr mor segur ac ysmala, heb ddwyn dim o bwys y dydd a'r gwres, a'r Esgyb Eingl wedi myned yn fleiddiau rheibus. Duw yn Ei iawn bryd yn ddiau a ofala am Ei eglwys.

I ddyfod unwaith eto o'r tro yma i'r ffordd fawr a'r daith a adawsom ar ol heb ei gorffen; myfi a duthiais o Gaer Fyrddin i Lan Egwad, i weled Cymro cywraint y clywswn lawer o son am dano es cryn ddeng mlynedd o'r blaen, ond na chawswn mo'r odfa hyd yn hyn i ddyfod i'w gyfyl. Dafydd Rhisiart yw ei enw: curad Llan Egwad ydyw; a gwr priod o berchen gwraig a phlant. Y mae, debygwn, dan ddeugain oed. Y mae ganddo gasgliad gwych o'r hen feirdd, ac amryw bethau gorchestol ereill, na welais i erioed o'r blaen mewn un man arall. Y mae, heb law hyn oll, yn ysgolhaig godidog, er na throediodd erioed un o'r ddwy Brifysgol. Os byddwn byw, mi ac yntau, nyni a gynullwn yr hyn a fo gwiw y