Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Ieuan Brydydd Hir.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

parthau yma o Gymru. Myfi a nodais, pan oeddwn yno, y pethau mwyaf cywraint, ac y mae yn addaw eu dadysgrifenu. Chwi a gewch glywed ychwaneg am danom, os byw ac iach fyddwch chwi a ninnau.

Unwaith eto at y daith. Mi a ddychwelais o Lan Egwad i Gaer Fyrddin, ac oddi yno y bore drannoeth i Gynwyl Elfed, ac i Ben y Beili yng ngwaelod Ceredigion: methu fyth à gweled fy hen gyfaillt. Oddi yno mi a gychwynais yn drymluog ddigon, ac a ddaethum i Fabwys, ac y syrthiais yn glaf o gryd engiriawl; a chwedi ymiachau unwaith, dygaswn, mi a ail glefychais o fewn y pymthengnos yma. Ond, i Dduw y bo'r diolch, yr wyf unwaith eto ar wellâd: ond y mae fyth ryw bigyn blin yn fy ystlys. Yr wyf yn cyrchu beunydd i lyfrgell Ystrad Meurig, ac yn astudio Plato fawr, a hen gyrff ereill o dir Groeg a'r Eidal. Cymdeithion mwynion iawn ydynt. Ni chefais i mo'm llyfrau o'r gogledd eto; ond y mae'r clochydd, fy hen gyfaill ffyddlon yno, yn mynegi eu bod yn ddigon diogel. Mae yn fy mryd gychwyn tuag at yno o hyn i Galanmai, neu ddanfon rhywun i'w cyrchu, heb ado migwrn odd yno. Y mae hiraeth arnaf eisoes am eu cymdeithas, ond nid oes modd i ddanfon hyd hynny.

Atolwg, beth yr ydych yn arfaethu ei wneuthur o drysorau mawrwyrthiog eich brawd? Ymwrolwch ac ymorolwch, da chwithau, er eu tragwyddoli mewn print.

Y mae gennyf yr awron dair Eglwys i'w wasanaethu, a Chapel Ieuan yn Ystrad Meurig