Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Ieuan Brydydd Hir.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o honynt. Felly ni lyfasaf fyned ym mhell oddi cartref.

Ni welais mo Mr. Paynter wedi'r diwrnod hwnnw y cymerais fy nghennad oddi wrthych chwi yn y Dafarn Newydd; ond y mae yn fy mryd ymweled ag ef rywbryd tu yma i'r Nadolig. Drwg iawn y newydd oddi wrth Oronwy, druan! Gresyn oedd!

Gadewch im' gael hir llythyr oddi wrthych, a pheidiwch talu drwg am ddrwg; sef gohirio ysgrifenu, fal y gwnaethum i. Cofiwch am roi hir enghraff o gyfieithiad Milton mewn mydr penrydd o eiddo Mr. Williams. Y mae Mr. Richard o Ystrad Meurig yn cofio ei wasanaeth yn garedig atoch.

Eich ffyddlon rwymedig gyfaill,
EVAN EVANS.

CYFLOG SAL IAWN.

Cynhawdref, February 4th, 1767.

ANWYL Gyfaillt,[1]—E ddygwyddawdd im' fyned i Aber Ystwyth ar neges ddiwedd yr wythnos ddiweddaf, ac yn ebrwydd mi a ddanfonais i'r Post Office i edrych a oedd yno yr un llythyr im'; a mawr oedd fy llawenydd pan welais yr eiddoch o'r degfed o Ionawr: ond dirfawr oedd fy syndod pan ddarllenais ddarfod i chwi ddanfon llythyr arall, ni wŷs pa bryd o'r blaen, ac un arall o eiddo y mwynwr hwnnw a'r anwyl gyfaill, Mr. Llwyd o Gowden,

  1. Mr. Rhisiart Morys.