yn ei fol. Diau yw na dderbyniais i mo honynt, ac yr wyf yn bruddaidd iawn o'r achos. Diam- heu mai ei gam lwybreiddio a wnaethoch, ac anghofio ysgrifenu per Montgomery arno. Yr wyf yn cymeryd gofal dichlyn bob wythnos i ddanfon i Aber Ystwyth am lythyrau bob dydd Llun, sef y diwrnod marchnad yno. Felly y mae yn rhaid iddynt fyned i Aber Teifi, neu ryw le anghysbell arall, lle nid oes modd i ddanfon am danynt.
Da chwithau, danfonwch yn ddiatreg at Mr. Llwyd, a dywedwch wrtho y drygddamwain; ac fy mod yn dirfawr ddiolch iddo am ei ewyllys da; ac y buaswn i yn cymeryd y guradiaeth, ac y cymeraf fi hi eto os nad ydyw ry ddiweddar. Nid wyf yn cael oddi wrth y tair Eglwys yr wyf yn eu gwasanaethu yma ond cyflog sal iawn, sef dwy bunt ar hugain yn y flwyddyn; ac oni bai fy mod yn byw gyda'm ceraint, ac yn cael fy mwyd a'm golchiad am ddim, ni buaswn byth byw. Ac am hynny, yr wyf yn llwyr fwriadu ymadaw oddi yma yng nghylch Calan Mai o bellaf. Da chwithau, ymorolwch, chwi ac yntau, am le arall i mi erbyn hynny, os yw hwn yna wedi ei golli. Ni wn i pa beth ar y ddaiar i'w ddywedyd am y rhodd yna drwy lythyr cymun yr ydych yn ei grybwyll am dano. Y mae yn debyg fod amlygrwydd yng nghylch y peth yn y llythyrau a aethant ar ddifancoll. Y mae yr awron yn edrych fal ped fai freuddwyd, a da iawn fyddai ped gwir fai. Da chwithau, gwnewch y goreu a alloch o'm plaid. Ni wn i ddim pa beth arall a ddywedaf, o herwydd