Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Ieuan Brydydd Hir.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fy mod yn llwyr yn y tywyll o blegid y peth. Nes elin nag arddwrn," eb yr hen ddiareb. Chwi a welwch fy mod yn llawn o honof fy hunan a'm pethau, o flaen meddwl na chydgam am neb arall na'u heiddo, ie, fy nghymhwynaswyr pennaf. Dyma ffordd y byd helbulus, trafferthus, gofidus hwn yma. Gwyn ei fyd a fai ddiangol o hono mewn llawenydd byd gwell, lle mae ein hanwyliaid o bryd i bryd yn prysuro o'n blaen; a lle, gobeithio, yr awn ninnau ar fyrder ar eu hol.

Y mae yn y wlad hwn ddwndwr mawr yng nghylch crefydd, megys ped fai'r trigolion amgenach dynion nag mewn mannau ereill; ond o ran eu ffrwythau y maent, y rhan fwyaf, yn diflannu yn fwg, ac y maent, braidd, waeth eu cynheddfau nag ereill; ac yr wyf fi yn ofni, mewn amser, na bydd yma grefydd yn y byd. Ac o daw Biblau Seisnig i'r Eglwysydd, mal y mae'r Esgyb Eingl yn bwriadu, ef a â yr ychydig oleuni sydd gennym yn dywyllwch. Y mae llawer yn Esgobawd Elwy, heb law y gwr a henwasoch, wedi taflu'r Biblau Cymreig allan eisoes, ac y mae yno lawer o Seison cynhenid bob Sul, yn enwedig mewn lle a elwir Aber Hafesb, yn sir Drefaldwyn, lle y mae'r gynhulleidfa i gyd yn Gymry, mal y mynegodd cyfaillt cywraint o'r wlad honno yr haf diweddaf i mi; ac yr oedd y plwyfolion, druain, yn edrych ar hynny megys yn fraint. Dyna falldod Seisnigaidd heb ei elfydd! Beth yw hyn ond dwyn drachefn gaddug pabyddaidd ar y wlad? Duw a edrycho arnom, ac a ddelo â gwell amser!