Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Ieuan Brydydd Hir.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mawr ddiolch iwch am y Miltwn Cymreig. Nid da y cydwedda y mydr yna â'n hiaith ni. Y mae mesur y Gododin yn llawer gwell, megys y tystia y llinell hon a llawer ereill ynddo:

Twrf tân a tharan a rhyferthi.

Myfi a fum sal y rhan fwyaf o'm hamser, er pan y'm gwelsoch, o'r cryd, yr hwn a ddychwelodd arnaf chwegwaith weithian: ac am hynny, ni bu dim hoen nac awenydd gennyf mewn llyfrau na dim arall. Gobeithio fy mod wedi ei gorthrechu bellach, ac y bydd tymor y flwyddyn o'm plaid.

Ni chefais mo'm llyfrau eto o Wynedd, er fy mod yn mawr hiraethu am danynt; o herwydd yr oedd dynion y wlad yma yn gofyn pris afresymol am eu nol fyrddydd gauaf, nid llai na thri guinea; ond y maent yn ddigon diogel yno mewn cadwedigaeth cyfaill ffyddlon. Os ymadawaf oddi yma ddechreu'r haf, ni wiw danfon am danynt oll, ond danfon am danynt lle y sefydlwyf. Fy afiechyd a lesteiriodd im' ddanfon at Mr. Richards o Lan Egwad. Y mae gormod o Eglwysydd ar fy llaw, onid e mi a awn ac a aroswn yno dros fis i ddadysgrifenu y pethau mwyaf cywraint.

Da gennyf glywed eich bod ar fedr cymhwyso gwaith eich brodyr i'r wasg. Da iawn y gwnewch er lles eich gwlad a'ch iaith. Am y Bibl Cymraeg â Nodau, y mae arnaf ofn na ddaw byth allan, ac nad ydyw'r dyn ychwaith ag sydd yn cymeryd y gorchwyl yn llaw gymhwys i'r gwaith. Ei enw yw Peter Williams; un o'r Methodyddion ydyw. Ni fedr ddim iaith iawn, na'i hysgrifenu chwaith,