Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Ieuan Brydydd Hir.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

megys y mae rhai llyfrau a ysgrifenodd yn tystio. Y mae Bugeilgerdd Mr. Richards o Ystrad Meurig wedi ei hanafu gan yr argraffydd, a gresyn oedd, o herwydd gwaith godidog ydyw ar y mydr hwnnw. Ni chefais hamdden eto i orffen Ymddiddan Lucian.

Ertolwg, gadewch im' gael hir llythyr oddi wrthych gyntaf ag y bo modd. Ysgrifenwch hefyd yn ebrwydd at Mr. Llwyd o Gowden, a dywedwch wrtho mal y mae pethau yn sefyll; sef fy anffawd i eisieu ei lythyr a'r eiddo chwithau. Mynegwch iddo na bydd dim llonyddwch i'm meddwl nes clywed oddi wrtho. Yr wyf yn mawr ddiolch iddo ef a chwithau am eich caredigrwydd tuag ataf. Duw a dalo iwch am eich cymwynasgarwch!

Y mae fy chwarter cyntaf yn terfynu y pymthegfed dydd o'r mis hwn. Yr wyf yn bwriadu aros yma un chwarter ychwaneg, i gael ychydig arian i ymdeithio yn fy mhoced; ac onid ef, mi a drown fy nghefn y bore fory. Y mae fy hen gyfeillion ffyddlon gynt gwedi marw yma, bawb o naddynt ; ac am hynny, ni welaf fi ddim gobaith o wellâu fy hunan, ped aroswn yma ddwy flynedd neu dair ychwaneg, ond yn unig colli fy amser gwerth- fawr heb wneuthur fawr o les im' fy hun nac ereill.

Y mae yn bryd weithian tynnu at derfyn; ac am hynny, mi a gymeraf fy nghenad oddi wrthych y tro yma rhag eich goflino.

Yr eiddoch yn garedicaf tra bo,
EVAN EVANS.