Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Ieuan Brydydd Hir.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

P.S. Direct to me thus:

'To..............at Gynhawdref in Lledrod Parish, near Ffos y Bleiddiaid, Cardiganshire, S. Wales. To be left at the Postoffice, Aberystwyth."

MELLDITHIO'R SAESON.

Newick, Gorffennaf 9, 1767.

ANWYL Gyfaillt,[1]—E fydd, agatfydd, yn rhyfeddod gennych glywed oddí wrthym o'r man yma. Bydded hyspys iwch, gan hynny, im' ymadaw o'r Pwll Dwr (Appledore), o herwydd nad oes y dydd heddyw, a'r a wn i, y fath giwed uffernol yn trigo ar glawr y ddaiar ag ydynt y bobl sydd yn y Persondy yno. Ac o ran y wlad oddi amgylch, nid Ilawer gwell ei hansawdd, o herwydd y lle mwyaf afiachus ydyw ag sydd yn Lloegr, o herwydd mai darn o Gors Romney ydyw. Am hyn myfi a ymroais i ymadaw â'r fangre felltdigedig, ac a aethum at fy mhatron i roddi'r lle i fyny a hwnnw, yn ddiau, a ymddygodd tuag ataf yn ddigon dreng. Ac fo ddywawd y brithyll yno i mi, iddo beri ysgrifenu atoch, i mi fenthycio ceffyl, ac felly ymadaw â'r wlad. Ac yn ddiau fo daenodd ei ddeiliad y gair ar hyd y wlad, er fod y ceffyl gartref ym mhen ychydig oriau ar ol fy addewid i'r taiog; ond yr oedd ef wedi myned i'w wely, ac ni fynnai mo'm clywed i, er im' alw yn y Persondy cyn

  1. Mr. Rhisiart Morys.