Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Ieuan Brydydd Hir.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

deg o'r gloch. Mewn gair, ni welais i ddim mo'r fath fileindra na chieidd-dra mewn un man erioed. Ond bendigaid fo Ei enw, y mae Duw yn cadw'r gwirion ym mhob man.

Gwedi ymadaw, yr oedd yr arian gwedi darfod gennyf. Yn y cyfyngdra hyn, e ddigwyddodd im' glywed fod Cymro yn gurad yn y gymydogaeth; ac at hwnnw yr aethum yn ddigon prudd fy nghalon, gan adrodd fy nghwyn, fal ag yr oedd pob peth; ac yno yr arosais bedwar diwrnod, â chroesaw mawr iawn. Enw y lle Headcorn; enw y Cymro cymwynasgar, David Evans, o swydd Gaer Fyrddin. Y gwrda hwn a'm cynghorodd i fyned yn ddiatreg â llythyr oddi wrtho ef at un Mr. Williams, o Hayton, yn agos i Lewes, yr hwn a allai fy nghyfarwyddo i gael curadiaeth. Ac felly myfi a gychwynais i'r daith, ac a ddaethum i nol crys neu ddau ac hosanau, i Appledore. Am y god groen, e orfu arnaf ei gadaw yno, à llawer o ryw ddillatach ynddi. Myfi a gyfeiriais tua Rye, i edrych a oedd y boxes wedi dyfod yno, fel yr oeddwn wedi ysgrifenu atoch gyda Mr. Wiliam Stock oddi yno. Myfi a ddeisyfais ar Mr. Troughton ysgrifenu atoch am eu cadw yna nes y caech glywed oddi wrthym drachefn. Myfi a ddeisyfais arno hefyd wrthwynebu y chwedl dybryd celwyddog yng nghylch y ceffyl. Gobeithio i'r llythyr hwnnw ddyfod i'ch llaw mewn iawn bryd ac amser; ac fod y boxes yna eto. Y mae arnaf fi eiseu fy nillad yn angerddol; o herwydd, i Dduw mawr y bo'r diolch, llyma fi unwaith eto gwedi cael curadiaeth esmwyth