mewn gwlad iachus, gyda gwr mwyn rhadlon, yn Sussecs, o fewn wyth milltir i Lewes, ac o fewn tair a deugain i Lundain, ac, meddynt wrthym i yma, o fewn deuddeg at fy nghyfaillt caredig Mr. William Llwyd o Gowden. Y mae llawer iawn o Gymry yn guradiaid yn y wlad yma, a rhai henafwyr yn perchenogi personoliaethau da. Y mae yn ddrwg gan fy nghalon i Mr. William Llwyd a chwithau a Mr. Troughton gymeryd cymaint o boen i'm dwyn i'r fath anfad le, ac at y fath Pharisead anhrugarog â'r Bicar yno. Ni arosodd yno un curad sefydledig er ys mwy nog ugain mlwydd. Yr oedd ef yn newid ei gurad agos bob blwyddyn, a'r cyfryw ag a arosynt yno a oeddynt yn cael eu traflyncu gan ei ddeiliad yno gan beri iddynt dalu yn afresymol am eu golchiad, ac am drin bwyd iddynt. Mewn gair, y mae y cyfryw ogan i bob un o'r ddau, ag i'm cyfaill David Evans ddywedyd wrthyf, na ellid fy nanfon i waeth lle ond at y diefyl i annwn.
Wele, llyna i chwi hanes y twrstan o'r twrstaneiddiaf. Yr oeddwn yn bwriadu yr wythnos yma ymweled â Mr. Llwyd, ond y mae'r hin mor dymhestlog, na fedraf ddangos fy mhig allan. Ond gobeithio yr hinona hi yr wythnos nesaf, ac yno, a Duw yn y blaen, myfi a âf i ymweled âg ef; o herwydd fod arnaf eisiau fy nillad a'r hen bregethau Seisneg yna. Byddwch mor fwyn a'u danfon hwynt wedi eu llwybreiddio yn y modd hyn ataf:
"For the Revd. Mr. Baynes, at Newick in Sussex—to be sent to Catherine Wheel in the