Borough, to go by Mr. Hall and Nutty the Carrier. N.B. The waggon sets out on Tuesday morning only, about eleven o'clock." Er mwyn Duw, gadewch im' glywed oddi wrthych yn ddiatreg. Y mae'r post yn dyfod yma bob dydd o'r wythnos ond dydd Llun o Lundain. Llwybreiddiwch eich llythyr yn y modd yma:
"To the Revd. Mr. Evans, at Newick in Sussex, by the East Grinstead bag."
Na ddeliwch ddim sylw ar yr hyn a ddamweiniodd yng Nghaint, ac na choffewch enw neb, ond yn gyffredinol, fod yn ddrwg gennych i mi gael fy nanfon i'r cyfryw le afiachus nad wyddoch chwi na Mr. Llwyd ddim oddi wrtho, ond a oeddid yn ysgrifenu atoch. Ysgrifenwch ataf yn Seisoneg, yn y cyfryw wedd ag y gallwyf ei ddangos i Mr. Baynes. Myfi a anghofiais ddwyn gennyf bapurau y testimonial o'r wlad; ac am hynny fo fydd yn rhywfaint o fodlondeb ganddo glywed y gair goreu. Pa beth bynnag yr wyf yn ei haeddu, i. Dduw mawr y bo'r diolch, yr wyf yn gywir ac yn onest; a'r bai mwyaf sydd arnaf, a bai ac anaf erchyll ydyw, yfed gormodedd. Ond y mae yn fy mryd, trwy ras Duw, dorri y ddrwg arfer hon yn llwyr; ac yno, mefl i Suddas a'i weision!
Myfi a anghofiais, braidd, ddywedyd wrthych orfod arnaf adaw Lewis Glyn Cothi a Dafydd ap Gwilym yn Rye. Gan na wn i pa bryd y gallaf ymdeithio mor belled, o herwydd y mae dros ddeugain milltir o ffordd oddi yma, ac o herwydd na wyddwn pa beth