Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Ieuan Brydydd Hir.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i'w wneuthur yn y cyfryw gyfyngdra, myfi a huriais lanc er swllt yn Appledore i'w dwyn hyd yn Rye, lle y maent yn ddiogel yng nghadwedigaeth Cymro yno. Myfi a roddais orchymyn iddo eu danfon naill ai i mi neu chwi, fel y byddai mwyaf cyfaddas. Myfi a roddais iddo gyfarwyddyd pa fodd i'w danfon atoch, ond i chwi ddanfon llinell neu ddwy ato ar y perwyl hwnnw. Y modd y danfonwch ato sydd fal y canlyn:

"TO Mr. William Prosser, Saddler, in the Market Street, Rye, Sussex."

Myfi a berais iddo gymeryd gofal am y boxes mau, o delynt yno. Gobeithio nad aethant, o herwydd nid oes modd ar y ddaiar i'w cludo yma. Ac felly os aethant, y mae yn rhaid eu cael yn ol mor ebrwydd ag y bo modd, a'u danfon yma.

Chwi a welwch gymaint o flinderau a barasant yr Esgyb Eingl im' trwy beri im' ymadaw â'm gwlad. Mi a chwenychwn, pan gaffoch odfa, gaffael hir llythyr oddi wrthych, a pha beth yw eich tyb chwi yng nghylch y traethawd a ysgrifenais i yn ei gylch. Nid wyf yr awron yn disgwyl ond by: lythyr Seisoneg oddi wrthych, o herwydd yr wyf ar bigau drain o eisieu fy nillad a'r hen bregethau Seisnig. Am fy llyfrau, nid oes arnaf frys yn y byd am danynt. Gadewch im' glywed oudi wrthych gynted ag y bo modd.

Yr eiddoch yn ffyddlon hyd y ffun ddiweddaf,
EVAN EVANS.