Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Ieuan Brydydd Hir.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CURADIAETH ESMWYTH.

Newick, Gorffennaf, 22, 1767.

Anwyl Gyfaill,[1]—Myfia a dderbyniais y gist â'r dillad, ac yr wyf yn mawr ddiolch i chwi a'ch gwreigdda am y boen a gymerasoch o'm plaid i a hwythau; a diau yw fod y gŵn yn ddrwg ei waneg pan ddaeth yna, a'r gasog hefyd. Bendith Dduw i'r dwylo a'u dygodd unwaith etwa i'w llun a'u lliw cynefin; a gobeithio y bydd y gwisgwr yntau yn addasach i'w gwisgo. Diolch hefyd am y gwregys a'r bandiau, eiddo'r Dr. Scot. Anghof a brys fy mrawd wrth ddyfod o'r Gogledd a barodd adael fy sash fy hunan ar ol. Mi a ysgrifenais i Lanfair Talhaiarn am dani, ac a berais ei danfon gyda rhywun onest i Lundain, a'i thraddodi yn eich dwylo chwi; o herwydd y mae o leiaf yn werth chweugain o arian; ac o iawn foddion a gwneuthuriad. Yr wyf yn gobeithio derbyn llythyr oddi yno cyn pen tair wythnos. Mi a erchais ei ysgrifenu mewn caead atoch chwi, o herwydd na fynnwn iddynt wybod fy nhrigfan, rhag ofn cael fy syfrdanu â llythyrau yng nghylch rhyw fân ddyledion sydd arnaf yno, ac felly gyrru traul arnaf heb ddim budd na ched iddynt hwythau. Hen wr godidog ydyw'r clochydd yno. Anaml iawn y ceir yng Nghymru bersoniaid o'i fath. Y mae yn deall Lladin a Hebraeg, Seisoneg a Chymraeg, yn odiaeth. Y mae yn deall yr hen feirdd yn lew

  1. Mr. Rhisiart Morys.