Liawn. Fe ddywawd wrthym i iddo ddanfon i chwi gopi o Gyfraith Hywel Dda ar hen femrwn gydag un Robert Llwyd oedd yna y pryd hwnnw yn brentis apothecari. Y mae ganddo lawer iawn o lyfrau Cymraeg, ond nid llawer o FSS. Ganddo ef y mae'r Almaenacau Cymraeg a soniais wrthych o'u plegid. Os mynnwch, mi a ddanfonaf ato am danynt. Yn ddiau y mae ynddynt bethau hynod a gwerthfawr; ac myfi a wn na nacâ ef mo honynt, o herwydd yr oedd yn fy hoffi, er fy holl feiau, yn ddirfawr, ac mi wn y gwnai un peth a'r a geisiwn a fai resymawl, yn ddiatreg, o cheisiwn. Cristion da ydyw, a gwybodol mewn llawer o gelfyddydau cywrain. Nid wyf yn cofio i mi son am dano wrthych erioed o'r blaen. Myfi a berais iddo ysgrifenu llinell neu ddwy atoch chwi yn y caead.
Myfi a fum yr wythnos ddiweddaf gyda Mr. Lloyd o Gowden, yr hwn, gwedi rhoi imi bregeth, a'm croesawodd dros wythnos. Yn ddiau, nid allaf byth dalu y rhwymedigaeth sydd arnaf i'r mwynwr hwnnw, mwy nog i chwithau. Gresyn na bai yn deall mydrau Cymreig cystal ag y mae y rhai Groeg a Lladin; diau na byddai na Gronwy na neb well nog e. Nid oes yma air o druth na gweniaith, ond yr union wir. A pheth sydd fwy eto, nid oes un gwyd na drwg arfer wedi greddfu ynddo. Anaml iawn y mae'r fath ddynion y to heddyw. Myfi a grybwyllais wrtho yng nghylch y traethawd yna o blaid yr Esgyb Eingl. Os ewch yno i ymweled ag ef, mae, fal y dygwch ef yno, i'w geryddu ganddo; o herwydd nad