Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Ieuan Brydydd Hir.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

adwaen i neb a feidr yn well, na neb chwaith y meiddiwn ddadguddio y cyfryw gyfrinach iddo, ond y gwr o'r Swydd Lyngesawl, a'm hathro haeddbarch o Ystrad Meurig. Myfi a ysgrifenais hir llythyr at y gwr hwnnw yn ddiweddar, ac a ddeisyfais arno ddanfon Testimonium o dan llaw y gwŷr llên o wlad Ceredigiawn, i'w ddanfon at Esgob Dewi i ddodi ei law wrtho. Nid oes yr awron ddim llawer o achos am y fath beth, ond goreu ei gael, o herwydd y mae yn ffurf ganddynt. Myfi a ysgrifenais hefyd lythyr yn ddiweddar at y Parchedig Mr. Thomas Percy, Caplan Duc Northumberland, i'm hesgusodi fy hun na ddaethum i'w weled yn ol fy addewid. Ý mae yna lawer o'i lythyrau ataf fi. Y mae yn gohebu â mi es chwe mlynedd; a diau dyn godidog ydyw. Myfi a grybwyllais am eich brawd Lewis yn fynych wrtho, ac myfi a fynegais yng nghylch y Celtic Remains wrtho. Os daw yna, gobeithio y byddwch mor fwyn a'u dangos iddo. Nid oes nemor o'i elfydd y dydd heddyw. Y mae yn gyfaill anwyl i Mr. Johnson, awdwr y Rambler, large folio English Dictionary, &c.

Am fy llyfrau sydd yn eich cadwraeth chwi, myfi a adawaf y cwbl yna hyd Wyl Fihangel. Ac od oes yna ddim a dâl ei ddarllen neu ei ddadysgrifenu, y mae iwch gyflawn groesaw hyd yr amser hwnnw. Ymgeleddwch, da chwithau, ychydig o'r papurau rhyddion yna, yn enwedig llythyrau eich brawd Lewis at Athro Ystrad Meurig. Da iawn fyddai pei cawn yr atebion sydd ym Mhenbryn o eiddo