Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Ieuan Brydydd Hir.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mr. Richard: ac yno fo fyddai yn llyfr diddan, amgenach, yn fy marn i, no llythyrau Pope a Swift, ac ereill wŷr penigamp a ysgrifenasant yn ddiweddar. Ymorolwch, da chwithau, am danynt.

Nid oes gennyf ddim yr awron i'w wneuthur ond ysgrifenu a phregethu Seisoneg, a darllen llyfrau dewinaeth (divinity) ac felly yn lle Ieuan Fardd, mi af yn Ieuan Ddewin. Ef allai y deuaf i ymweled â chwi dros ddiwrnod ym mhen mis. Ac y mae yna lawer o hen gyfeillion, ysgolheigion Ystrad Meurig, sydd arnaf flys eu gweled. A glywch chwi? Mi a anghofiais o braidd ofyn iwch pa beth yr ych yn arfaethu wneuthur o'r Fugeilgerdd yna? Yr oedd y Tew o Ystrad yn meddwl y rhoddech hi yn y wasg; ac os felly fydd, na anghofiwch gydnabod mai ef yw'r cyntaf a ysgrifenodd fugeilgerdd yn Gymraeg; ac onid ef, fo ddigia, ac ni chymyd byth â chwi no minnau. Mi feddyliais am hyn es dyddiau, ond mi a anghofiais ysgrifenu atoch. Y mae ef wedi newid y ddeu-fraich ddiweddaf o'r trydedd pennill yn y wedd yma. Yn lle—

O'r wyn aeth i Frwyno, d' oes un nad oes yno,
Pob un a grwydro a geir adre.

darllenwch—

Mamogion bron Brwyno, er iddynt hir grwydro,
Don' eto i'w llwyr odro i'r llawr adre.

Am Dafydd ap Gwilym a Lewis Glyn Cothi, da iawn fu'r helynt eu dwyn o'r Pwll Dwr. Y maent yn ddigon diogel iwch. Danfonwch am danynt pan fynnoch. Llyna iwch bapuryn yn dangos gyda phwy i ddanfon am danynt,