Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Ieuan Brydydd Hir.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

os mynnwch eu cludo dros fôr. Yr wyf yn meddwl nad oes na cherbyd na men yn myned yno o Lundain. Gadewch im' glywed pan ddelont yna, o herwydd fo fydd yn esmwythter gennyf eu dyfod yn ol yn ddifai ddianaf. Yr oeddynt yn ormod baich i mi eu cludo ar fy nghefn, er fod yn ddrwg gan fy nghalon orfod arnaf adael y ddau hen gorff mwyn ar fy ol. Ond pan ddigwyddo llongddrylliad, chwi wyddoch mai hunan-geidwadaeth yw'r egwyddor pennaf. E orfu arnaf, fal pob moriwr arall, gardota ar hyd y ffordd yma, o herwydd a dderyw im' pan oedd drymaf y dymhestl, daflu yr aur a'r arian dros y bwrdd; ac yna, wedi ychydig ddyddiau, y bu tawelwch mawr. Wele, wele! Gobeithio Duw nad af fi, tra bwyf ar y ddaiaren, i'r cyfryw daith drachefn.

Yr wyf yr awron, clod i'r Goruchaf, yn mwynhau fy iechyd yn odiaeth, ac yr wyf mewn gwlad iachus, gyda gwr mwyn, rhadlon, boneddigaidd. Yr wyf yn ciniawa gydag ef bob dydd, ond yn lletya allan. Yr wyf yn talu chwe swllt yr wythnos am fy nghinio, a hanner coron am fy llety, ac yng nghylch chwe-cheiniog am fy ngolchiad. Y gyflog ydyw deugain punt yn y flwyddyn. Nid yw ond curadiaeth esmwyth a phlwyf bychan. Nid oes i'w wneuthur ddyddiau'r wythnos. Nid allaswn fyth ddygwydd wrth guradiaeth well.

Am y Petr Wiliams yna sydd yn argraffu y Bibl yng Nghaerfyrddin, nid yw, meddynt i mi yng Ngheredigion, ond ysgolhaig sal, a phur