Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Ieuan Brydydd Hir.pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

anghyfarwydd yn y Gymraeg. Un o gynghorwyr neu ddysgawdwyr y Methodistion ydyw. E ddywedwyd wrthym i nad oedd y gwaith ddim yn myned yn y blaen, o herwydd eu bod yn barnu nad oedd ef ddim gymhwys i'r gorchwyl. Dyna'r cwbl a wn i am dano.

Dyma'r papur ym mron darfod. Duw a'ch cadwo ac a'ch bendithio chwi a'ch tylwyth! Yr eiddoch yn ffyddlonaf,

EVAN EVANS.

P.S. Gwiliwch na sonioch wrth neb yng Nghymru am hanes y Pwll Dwr, ac onid ef ni bydd diwedd byth ar bregethu, yr hyn a ddylai fod fal physigwriaeth arall............

PENHILLION Y TELYNOR.

Newick, Gorffennaf, 29, 1767.

ANWYL Gyfaill,[1]—E ddywawd Mr Llwyd o Gowden i Barri y Telynior grefu ychydig o benhillion Cymraeg ganddo ef, a chyfieithiad Seisnig o naddynt, o ba benhillion y rhoddwys i mi gopi pan fum yn ymweled âg ef, megys y gallwn innau elfyddu rhyw beth, o deuai chwimp o'r fath honno i'm pen; ac ddoe brydnawn, gwedi blino rhodio'r meus- ydd, mi a gyfansoddais y penhillion canlynol. Ni wn i gyweddant â'r mesur ai peidio, o herwydd nad wyf yn deall miwsig. Pa fodd

  1. Rhisiart Morys.