Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Ieuan Brydydd Hir.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bynnag, chwi sydd, agatfydd, well barnydd, mewn miwsigyddiaeth, a ellwch, os rhynga bodd iwch, eu danfon at Barri, i edrych a ellir eu cymhwyso i'r delyn. Y mae'r testun, hyd ag yr wyf fi yn deall, wedi ei gyfaddasu i flas Penllywydd y deyrnas; ac o ran fod y telynior yn ddyn dawnus o Gymru, gresyn na chai ef ganu ambell bennill Cymraeg i Dywysog Cymru, o'r hyn leiaf dan ystlys y rhai Seisnig. Nid wyf fi ond anghyfarwydd yn y fath yma o brydyddiaeth, ac felly, os methais, rhaid cymeryd yr ewyllys yn lle'r gallu.

Yr eiddoch yn ffyddlon,
EVAN EVANS.

Byddai yn dda gennyf glywed, pan ddych- welo'r ddau wr boneddig gan Dafydd ap Gwilym a'r Cadben Lewis o Lyn Cothi o Rye. Fy ngwasanaeth atynt.

CANIAD AR ENEDIGAETH SIOR,
TYWYSOG CYMRU.

Ar y dôn a elwir "Y Cyntaf o Awst."

MOESWCH, feirdd, mewn cywrain gân
(Ond diddan yw i'n dyddiau?)
Roi geiriau glwys o gywir glod
At hynod lais y tannau,
I ganmol Llywydd nef a llawr
Am roi Tywysog, enwog wawr,
Er llawenydd, ddedwydd awr,
A dirfawr lwysfawr leisiau.