Cymry Pabaidd, at y Sancteiddiaf Arglwydd Clement y Pedwerydd ar ddeg, Pab Rhufain; ym mha un y mae yn mynegi yn helaeth yng nghylch Helynt Crefydd yn y wlad honno, ac yn dangos y modd i gynnal a chynhorthwyo cyflwr alaethus y Gymdeithas honno, ag sydd yr awron ar fethu yn ardaloedd Eglwys Rhufain."
Y mae Ioan Elphin yn dywedyd y gwna'r Iesuitiaid burion offeiriaid yng Nghymru, o ran eu bod o'r un gynneddf a champau da a'r Esgyb Eingl. Y mae hwn yn finiog gethin; ond nid a e ddim o law'r awdwr oddigerth atoch chwi, pan gaffwyf gyfle, mewn gwisg Gymraeg; oddi wrth yr hon ni ŵyr yr Esgyb uchod ddim.
Y mae yn rhyfedd gennyf, a chwithau mor agos i Rye, nad aethoch a'r llyfrau gennych. Nid yw, am a wn i, ddim pellach no chwe milltir o Romney. Mynnwch ryw law sicr i'w cludo oddi yno. Myfi a logaf geffyl, os gwelwch chwi yn dda, i'w nol; ond hi fydd yn dreulfawr; o ran y mae oddi yma yno fwy no thri ugain milltir; ond dewisach gennyf fi golli dau guinea na chlywed colli D. ap Gwilym a Lewis Glyn Cothi. Ond os cewch chwi rywun a ellir ymddiried iddo, nid rhaid im' fyned i'r draul. Gadewch im' wybod eich meddwl, o herwydd, os dywedwch y gair myfi a af.
Buasai hoff iawn gennyf eich gweled yn Newick. Mi a fum es pymthengnos yn ymdrochi yn y môr yn lle a elwir Seaford, lle yr oeddwn yn cael digon o gimychod am rôt y