pwys, a gwely da'r nos a pharlwr gwych y dydd, am chwecheiniog, lle yr oedd ereill yn talu yn Brighthelmstone ddau swllt y nos o leiaf, ac nid oes wybod pa faint am fwyd. Os digwydd i chwi a minnau fod yn y byd yr haf nesaf, o bydd gennych chwant i ymolchi yn y môr, nid oes fodd cael lle mor rhad, na gwlad mor iachus, na chyfle gwell i ymolchi. Chwi a welwch im' ysgrifenu at Robert Thomas yng nghylch yr Almanacau: o gwyddoch chwi pa fodd i'w cludo atoch, ysgrifenwch air at yr hen wr mwyn; bydd dda ganddo glywed oddi wrthych. A dywedwch im' hyn eto: A ydyw iawn i mi ysgrifenu llythyrau fal hyn tan gaead? Os nad ydyw, myfi a beidiaf ar yr amnaid cyntaf.
O bydd gwiw gennych chwi a ellwch gadw y Traethawd yng nghylch yr Esgyb Eingl yn eich meddiant: ond am y llyfrau ereill a'r MSS., y mae arnaf led flys i'w caffael yma. Am y cyfrwy, cedwch ef yna, nes caffoch eich talu am yr arian a roisoch allan o'm plaid i. Llyma'r cyfarwydd i ddanfon y blychau:
To the Revd. Mr. Evan Evans, at Newick, Sussex, to be left at Mr. Burtenshaw, at the King's Head, upon Chailly Common. To be sent to Mr. Thompson, at the White Hart in the Borough, to go by Mr. Rickman the carrier from Lewes. The waggon sets out early on Thursdays."
Ac felly rhaid eu danfon yno y diwrnod o'r blaen. Mynnwch receipt am danynt, a danfonwch i mi, mal y gwnaethoch am fy nillad. Mi a gefais gynnyg ar guradiaeth gan Mr.