Thomas Percy, Caplan Duc Northumberland; ond o ran fy mod yn fodlon i'm lle yma, ni ymadawaf ddim. Myfi a ddeisyfais arno fynnu cennad i mi weled MSS. yr hen larll Macclesfield sydd, meddynt i mi, yng nghadwraeth yr Iarlles weddw ei wraig. Y mae yn dywedyd y gwna ei oreu. Moeswch gael clywed rhywfaint o helynt yr larlles, pa le y mae hi yn byw, a pha le y mae ei llyfrgell ganthi. Y mae yn addo fy nwyn yn gydnabyddus â Syr Watkin Wms. Wynn, who is," (meddai ef) "disposed to give you a very favourable reception."
Mi fyddaf fi yn disgwyl fod y blychau yma cyn pen wythnos. Gadewch im' gael llythyr oddi wrthych chwithau hefyd, mal y gallwyf wybod a ydynt yn dyfod ai peidio, ai pa un y chwennychoch eu cadw yn hwy, ai nad ydych.
Yr eiddoch yn ddiffuant,
EVAN EVANS.
MARWNAD SION POWEL.
ANWYL Gyfaillt,[1]—Llyna i chwi Farwnad Sion Powel Fardd, wedi cael y newydd alaethus o'i farwolaeth. Mi a ysgrifenais lythyr, a chopi o honi, at y Llwyd o'r Coed Yn yng Nghaint. Ertolwg, perwch i Lewis Morris ieuanc ysgrifenu copi o honi
- ↑ Mr. Rhisiart Morys.