CYFRINACH.
ANWYL Gyfaillt,[1]—Llyma fi yn danfon yn yr amser penodol am fy llyfrau, ac yn deisyf arnoch eu danfon yn ol y cyfarwyddyd a roddais iwch, modd y gallwyf eu cael yn ddiogel. Ysgrifenwch linell neu ddwy ataf y dydd y cychwynont, a receipt oddi wrth y warehouse keeper. Myfi a gefais lythyr yn ddiweddar oddi wrth Mr. Lloyd o'r Goeden. E ddywawd fod ei fab wedi cael cennad gan Dr. Humphrey Owen, Penial Coleg yr Iesu yn Rhydychen, i ddadysgrifenu copi o waith Gildas Nennius, yr hwn gymhwynas a addawsai y Doctor i mi es dwy flynedd aeth heibio ; ond ni chefais neb a gymerai'r boen arno, nac y llyfaswn ymddiried iddo am y fath orchwyl, nes caffael Bill Llwyd, yr hwn sydd yn ddiau yn llencyn gobeithlon iawn. Y mae gennyf finnau yma lawer o nodau wedi eu casglu yma a thraw o lyfrau argraffedig a gwaith llaw. Ond y mae'r cwbl yn rhy fychan oni cheir benthyg y Celtic Remains a'r llyfryn Indexes yna, a chopi printiedig y Dr. Gale, ie, a'r Nodau ar Dyssilio hefyd, os oes modd i'w cael. Chwi a welwch gymaint yr oedd eich brawd yn fy nirio i gymeryd y gorchwyl hwn yn llaw oddi wrth ei lythyrau ataf a'm hen feistr o Ystrad Meurig. Yn ddiau nid anturiaf fi mo hono heb y cynorthwyon uchod. A chan eich bod chwi mor brysur yn eich Swydd
- ↑ Mr. Rhisiart Morys.