Lyngesawl yna, ni waeth eu bod yma nac yna. Ni adwaen i neb a fedr wneuthur defnydd o honynt oddigerth Sion Thomas, Athraw Ysgol y Beaumaris; ond y mae gan hwnnw ei wala wyn (chwedl gwŷr Dyfed) i'w wneuthur, os gwna gyfiawnder i'w ysgolheigion. Gwell yw gan hynny, meddaf fi, eu danfon yma, cyn eu danfon i'r British Museum, neu, o ddamwain, i le gwaeth, lle na bydd modd byth i mi ddyfod o hyd iddynt. Y mae'r einioes yn frau, ni wys pa'r awr, pa'r ennyd y gelwir am danom o'r byd hwn; ac am hynny goreu yw cyweirio'r gwair tra fo'r haul ysplennydd yn tywynu. Yr ydych chwithau, y mae arnaf ofn, yn meddwl fyth am y Pwll Dwr, ac yn ofni eu colli; ond yr wyf fi yn meddwl y gellwch fod yn ddigon esmwyth yng nghylch hynny, os gellwch chwi rwydd ymadaw â hwynt. Hwy a gânt, o'r hyn lleiaf, yr un ffawd a helynt à'm llyfrau fy hun. Gobeithio ddyfod o'r ddau lyfr o Rye i'ch dwylo. Hen wr sad gonest yw'r Prosser, ac myfi fuaswn yn ymddiried iddo o herwydd ei eirda gan ei gymydogion am oll a feddwn, ac onid e myfi a fuaswn, er cymaint y lludded, yn eu cludo gennyf i ryw le diwall. Ni ymddygodd un dyn erioed mor giaidd annhrug- arog wrthym a'r llyffant du dafadenog o Granbrook. Wfft i'r anghenfil!
Yr ydych yn dywedyd yn un o'ch llythyrau y gallaf fod yn fardd ac yn ddewin hefyd. Gallaf, rywfath o honynt. Ond y mae'r fath ddewin ag wyf fi yn ei feddwl yn amgen peth, sef a ddylai wybod yr Hebraeg, y Syriaeg, a'r Chaldaeg, yr Arabiaith, ac iaith y Persiaid;