Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Ieuan Brydydd Hir.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mewn gair, ef a ddylai ddeall y Biblia Polyglotta eiddo Brian Walton. Heb law hyn, ´e ddylai ddarllen gwaith hen Dadau yr Eglwys, sef Origen, Basil, Ioan Aureneu, Eusebius, Clemens Alexandrinus, &c., yn y iaith Roeg, a Cyprian, Hieronymus neu Sieron, Emrys, Awstin, Tertullian, a chryn gant ychwaneg, yn Lladin. Mi a fyddaf weithiau am gychwyn yng nghylch y gorchwyl maith hwn, ond y mae'r olwg arno yn fy nigaloni, er fod amryw wedi ei amgylchu, y rhai sydd yn llewyrchu megys cynnifer o ser yn eu cenedlaethau. Y cyfryw oeddynt Ioseph Scaliger, Grotius, Selden, Usher, ac eraill. Weithiau ereill mi fyddaf am daclu ein hen waith ein hunain, pei cawn ganllawiau. Ond ni wiw disgwyl mo'r fath beth, ond bai i Syr Watcyn, neu ryw un o'i fath, fy nghynorthwyo; ond y mae gwŷr Cymru, mal y gwyddoch, wedi ymroi i fod yn Seison; am hynny y mae arnaf ofn wedi'r cwbl yr â'r din rhwng y ddwy ystôl i'r llawr. Pa fodd bynnag, ni fedraf fi ddim bod yn segur tra bwyf fi, ped fai ond darllen Don Quixot, ac ereill bethau gwasaw i ddifyrru'r amser; ond dewisach fyddai gennyf ei dreulio er lles i ereill a chysur im' fy hun pan elwyf oddi yma. Ewyllys Duw a wneler.

Byddai dda gennyf gael y Traethawd ar yr Esgyb Eingl adref, a barn Mr. Humphrey arno. O'm rhan fy hun, yr wyf yn meddwl y dylai fod yn haerllug ac yn groch i'w herbyn o herwydd byddair iawn yw'r Esgyb, a rhaid croch lefain i'w herbyn, os mynir iddynt glywed. Ni wnant ond tremygu a distadlu o chyferchir