mal y gweddai i iawn esgyb, y peth nad ydynt hwy, na thebyg iddo. Er hyn i gyd, byddai dda gennyf glywed barn arafaidd y dysgedig arno, megys, od a fyth i'r wasg, y gallo beidio a gwneuthur niwaid o leiaf, oni wna ryw ddaioni. Ond am danaf fy hun, megis ag y dywedais uchod, ni newidiwn i mo'r mymryn lleiaf, ped fawn i farw fory nesaf, ac nid oes na chuchiau na chymwynasau a ddichon newid fy meddwl i yn eu cylch. Felly yn iach iddynt nes bont wŷr da!
A glywsoch chwi oddi wrth yr hen glochydd mwyn o Lanfair Talhaiarn eto? ac a oes gobaith gweled yr Almanacau? A ddanfon- asoch y Cywydd ato, sef Marwnad Sion Powel Fardd? Mi a brynais yn ddiweddar lyfr Tullius Cicero yng nghylch Dyledswyddau Dynion, sef yn Lladin "M. Tullii Ciceronis Officia," ym mha un y mae yr ymddiddanion sydd yn niwedd Gramadeg y Dr. Gruffudd Roberts. Os danfonwch eich Gramadeg chwi yma, mi a orffennaf yr hyn sydd ar goll. Yr wyf yn deall yr iaith Groeg a Lladin a'r Gymraeg o leiaf cystal a'r Doctor: gair mawr (chwedl Abad Dinas Basi wrth Dudur Aled) o eneu arall. Ond gwir yw hynny i gyd, a choeliwch fi. Ond, ysywaeth, y mae dolur yn fy mhen o'r achos es hir flynyddau, a dyma'r achos fy mod yn colli cymaint arnaf fy hun mewn diod. I Dduw mawr y bo'r diolch fod fy synwyrau gennyf yn sobr. Myfi a fyfyriais yn ddifesur yn ieuanc yn yr Ystrad draw, ac ni byddaf byth fal dyn arall o'r achos. Ni ŵyr llawer ffwl pengaled mo hynny ddim, ac ni chaf na nawdd na