Myfi a glywais fod llyfrau Mr. Edward Llwyd o'r Museum gan Mr. Pennant, gan y Parchedig Mr. Richard Thomas, Curad Rhuthin. Gobeithio y cawn lawer o hen goffeion yn ei lyfrau nesaf o'i deithiau trwy Gymru. Tra chywraint oedd y gwaith diweddaf: a gresyn, mal dywedwch chwithau, na bai yn deall iaith ei wlad yn well.
Ni welaf yr awron ddim modd i argraffu dim mewn Brutaniaith, o ran fod ein boneda mor annaturiol i'w gwlad a'u hiaith. Dyna Syr Watcyn wedi tynu oddi wrthyf ei SALARY neu ei BOUNTY. Y mae chwareyddion, miwsigyddion, a chwareuwyr hud a lledrith yn fwy dywenydd ganthaw na gwŷr o ddysg. Y mae yn rhaid i mi, gan hynny, edrych am ryw ffordd arall i gael bywiolaeth. Nid oes dim a fynwyf fi ag ef na'i fath tra byddwyf byw mwy. Y mae yn rhyfedd gennyf na byddai eich Cymmrodorion chwi, sydd wŷr o ddysg a moddion bydol, dipyn well eu cynheddfau, a'u cariad at eu gwlad, na goddef Geirlyfr Dr. Davies, a Celtic Remains Lewis Morris heb eu hargraffu. Pedwar cant o bunnau a len- wai'r wlad o lyfrau godidog; a pha faint mwy no hynny y mae dynion yn eu treulio ar eu melus chwantau, heb wneuthur gronyn o les i gorff nac i enaid, nac i'w gwlad, nac i'w hiaith?
Mi a ddeisyfais arnoch ysgrifenu specimen o gyfieithiad Seisnig Mr. Richard Thomas o waith Llywarch Hen. Os yw wedi ei iawn gyfieithu, e ddylid ei argraffu. Y mae gennyf fi ddadysgrifiadau o hen gopiau awduraidd