Os Iolo ysgrifennodd farwnad Syr Rhys. Wgan, y mae lle i gredu y bu ym mrwydr Cressi, felly ganed y bardd tua 1326. Cafodd ei addysg, yn ol pob tebyg, ym Mynachlog Llan Egwestl. Yno gydag ef yr oedd ei gâr Ithel ap Rhotpert, gwedi hynny Archddiacon Ysceifiog; ac efallai eu bod hwy a Ieuan Trefor, Esgob Llan Elwy (1395-1410), уп gyd-ddisgyblion. Hwyrach, hefyd, mai Ieuan Trefor arall oedd. yr abad (1335-1357) y gwelodd Iolo y dadeni adeiladwaith gymerodd le yn y Fynachlog yn ei amser. Ni wyddom pwy oedd athro y bechgyn, yr unig beth ddywed Iolo yw ei fod "o'r un llwyth, o Ronwy Llwyd." Dywed traddodiad fod Iolo wedi graddio yn y ddwy gyfraith, ac y galwyd ef Iolo Goch oherwydd y byddai'n gwisgo cochl coch doethawr. Anhawdd derbyn hyn, y mae mwy o le i gredu y gelwyd ef yn goch am yr un achos ag yr oedd ei dad Ithel yn goch. Er nad oes gennym brofion o'r traddodiad hwn, yn ddiameu yr oedd Iolo yn wr hyddysg, yn enwedig yn llên Cymru. Er ei gywyddau serch, tybed a oedd wedi derbyn un o urddau isaf y myneich gwyn? Pe caem hyd i gof-restri Llan Egwestl medrem egluro llawer i ddyrys beth.
Sonia am dri athro iddo mewn barddoniaeth. Y cyntaf oedd Ednyfed ap Gruffudd, ac o dan ei addysg ef enillodd addurn cadair, yn yr olaf o'r Eisteddfodau Dadeni a gynhaliwyd tua 1356, am ei "wybodau parth Cerdd Dafod"— os cywir yw nodiad Iolo Morgannwg. Geilw Ithel Ddu yn drydydd athro; ond i Lywelyn Goch y dyry ef y parch mwyaf, ac y mae ei farwnad i'r bardd hwn yn deyrnged odidog.