Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Arddelw arnaf aur ddolef,
Olud oll i weled ef.
Nid pell Tre'r Castell, cell cêd,
Tud nefol, Tai Ednyfed,
I ffenestr wyf fi yno,
I faer fyth, fy aur yw fo.
Caf yno heb geisio gwell,
Cystal ag yn Nhre'r Castell;
Ol a gwrthol, i'm gorthir
Awn at Rys, gwys y gwir,
Ar draws Mon, o dy Rys mwy
Di 'rynaig i dy Ronwy;
O dy Ronwy, da'r Ynys,
Da ryw ymchwela i dy Rys;
O dy Rys, dur i aesawr,
I dy Wilym, mynd elw mawr,—
Llys Wilym, lle llysieulawn,
Llewpart aur, lle parod dawn;
A nwyd rhag yno trigaf,
Yn y nef ac iawn a wnaf,
Trefn clerach, trafn goleuryw,
Tariaf ym Mon tra fwy fyw.


XXXVIII. ACHAU OWEN GLYN DWR.

MYFYRIO bum i Farwn,
Moliant dyhuddiant i hwn,—
Arwyrain Owain a wnaf.
Ar eiriau mydr yr euraf,
Beunydd nid naddiad gwydd gwern,
Pensaer-wawd, pen y sirwern.
Pwy yng nglawr holl Faelawr hir—
Paun rhwy Glyn Dyfrdwy dyfrdir?
Pwy ni dylai, pe bai byd?
Pwy ond Owain, paun diwyd?