Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y ddwy Faelawr, mawr eu mal,
Eithr y fo, a Mathrafal.
Pwy a ostwng Powys-dir,
Pe bai gyfraith a gwaith gwir?
Pwy'n eithr y mab pennaeth-ryw—
Owain ab Gruffydd—nudd in yw?
Ap Gruffudd llafn-rudd y llall,
Gryf-gorff cymen digrif-gall.
Gorwyr Madog, ior Degeingl,
Fychan yn ymseingan seingl.
Goresgynydd, Ruffydd rwydd,
Maelawr, gywir-glawr arglwydd.
Hil Madog hir-oediog hen,
Gymro ger hoew-fro Hafren;
Hil Fleddyn, hil Gynfyn gynt,
Hil Addaf ddewr hael oeddynt;
Hil Faredydd, rudd i rôn,
Teyrn carneddau Teon,
Hil y Gwinau, Deufreuddwyd,
Hil Powys lew, fy llew llwyd;
Hil Ednyfed, lifed lafn,
Hil Uchdryd ddewr, hael wych-drafn ;
Hil Dewdwr Mawr, gawr gwerin,
Heliwr gweilch, heiliwr y gwin,
Hil Maig Mygotwas, gwas gwaew-syth,
Heirdd fydd i feirdd, o'i fodd byth."
Hawddamor, por eur-ddor pert,
Hwyl racw'm mrwydr hil Riccert.
Barwn, mi a wn i ach,
Ni bu barwn bybyrach.
Anoberi i un barwn,
Eithr y rhyw yr henyw hwn.
Gorwyr dioer gair dwyrain,
Gwenllian o Gynan gain,
Medd y ddwy Wynedd einym,
Da yw, a gatwo Duw im.