Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wrth bawb i ortho a'i bwyll,
Arth o Ddeheubarth hoew-bwyll;
Cynyddwr pob cyneiddwng,
Cnyw blaidd, y rhyw cenau blwng.
Pestl câd ag arglwydd-dad glew
Post ardal Lloegr, pais dur-dew;
Edling waed o genhedlaeth
Yw ef, o ben Tref y Traeth,
I gyfoeth ef, a'i gofyn,
Trefgarn, o'i farn ef a fyn;
Garw wrth arw, gwr wrth ereill,
Mwyn fydd a llonydd i'r lleill.
Llonydd i wan, rhan i'w rhaid,
Aflonydd i fileiniaid.
Llew Is-coed, lluosawg gêd,
Llaw a wna llu o niwed.
Llithio brain, 1lethu Brynaich,
A llath bren mwy na llwyth braich.
Be magwn, byw i 'magor
Genau i neb, egin Iôr,
Hael eur-ddrem, hwyl awyr-ddraig,
I hwn y magwn ail maig."
Tawn, tawn, goreu yw tewi.
Am hwn nid ynganwn ni,
Da daint rhag tafawd, daw dydd,
Yng nghilfach safn anghelfydd;
Cael o hwn, coel a honnir,
Calon Is-Aeron, a'i sir;
Ag iechyd a phlant gwych-heirdd,
Yn Sycharth, buarth y beirdd.

Un pen ar Gymru wen wedd,
Ag un enaid gan Wynedd,
Un llygad cymuniad caith,
Ag unllaw yw am Gynllaith.