Y mae Iolo Goch yn un o feirdd uchaf a mwyaf ei oes yng ngorllewin Ewrob. Gwelir, yn enwedig yn ei gywyddau serch, ddylanwad Dafydd ab Gwilym. Ond yr oedd iddo neges ddyfnach a mwy grymus nag eiddo Eos Dyfed. Cymer ran yng ngwrthdystiad ei oes yn erbyn coegni a rhagrith yr urddau cardod. Gwelwn hefyd fod iddo argyhoeddiadau crefyddol dyfnion, a dyry i ni fynegiant uchel o grefydd y Canol Oesau ar ei goreu. Yr oedd ymhell o flaen ei oes yn ei gyd-ymdeimlad â'i gyd-ddyn, ac y mae ei Gywydd i'r Llafurwr a neges byw i ni heddyw. Yn wir y mae y cywydd hwn yn ddihafal o'i fath, hyd y ganrif olaf.
Gwir taw fel bardd Owen Glyndŵr y câ'r sylw mwyaf. Y mae yr agwedd genedlaethol yn fwy grymus heddyw nag y bu erioed. Cawn yn ei gywyddau gân gwawr deffroad cenedlaethol i ryddid—rhyddid i weithio allan ei hiachawdwriaeth ei hun, heb i sythfryd un gelyn nag estron lethu ei datblygiad. Yr oedd yn un o broffwydi'r bore, gwelodd ffordd gywir dyrchafiad cenedl—drwy y niwl hwyrach—ond efe a welodd y llwybr, ac a annogodd Gymru i ymdeithio rhagddi. Cawn ddarluniau byw o Gymru a Chymry ar eu goreu—darluniau sydd yn anhebgorol angenrheidiol eu gwybod a'u deall, cyn y gallwn iawn amgyffred godidowgrwydd y deffroad hwn, a Chymru cyfnod Owen Glyndŵr.
Cafodd flynyddau hwy na'r addewid. Gwelodd ddifancoll ei dywysog. Yn ei alarnad ar ei ol—y cywydd olaf—cawn ef yn adgoffa y cynllunio wnaeth Owen er cael Cymru'n rhydd. Y mae acen ei ffydd yn y dyfodol yn treiddio trwy'r cywydd, uwchlaw ei hiraeth calon;