Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XL. AR DDYFODIAD OWEN GLYN DWR O'R ALBAN.

MAWR o symud a hud hydr,
A welwn ni ar welydr.
Archwn i Fair, arch iawn fu,
Noddi'r bual gwineu-ddu,
Arglwydd Tywyn, a'r Glyn glwys,
Yw'r pôr, a ior Powys.
Rhwysg y iarll balch gwyar-llwybr,
Rhwysgir wyr Llyr ym mhob llwybr;
Anoberi un barwn,
Ond o ryw yr henyw hwn.
Hynod yw henw i daid,
Brenin ar y barwniaid.
I dâd, pwy a wyddiad pwy,
lor Glyn daeardor Dyfrdwy.
Hiriell Gymru ddiareb,
Oedd i dad, yn anad neb.
Pwy bynnag fo'r Cymro call,
Beth oreu, gwn beth arall,
Goreu mab rhwng Gwr a Main
O Bowys, fudd-lys feddlain,
Oes un mab yn adnabod
Caru cler, goreu y cair clod;
Ni fyn i un ofyn ách,
I feibion; ni fu fwbach.
Ni ddug degan o'i anfodd,
Gan fab onid gan i fodd.
Ni pheris drwy gis neu gur,
Iddaw a'i ddwylaw ddolur;
Ni chamodd fasnach amwyll,
Cymain a bw cymen bwyll.
Pan aeth y gwr, fal aeth gwrdd
Goreu-gwr fu garw agwrdd,