Ni wnaeth ond marchogaeth meirch,
Goreu amser mewn gwrm-seirch;
Dwyn paladr gwaladr gwiw-lew,
Sioged dur a siaced dew;
Arwain-rest a ffenffestin
A helm wen, gwr hael am win;
Ag yn i ffen, nen iawnraifft,
Adain rudd o edn yr Aifft;
Goreu sawdiwr gwrs ydoedd,
Gyda Syr Grugor, ior oedd.
Ym Merwig, herw-drig hwyrdref,
Maer i gadw'r gaer gydag ef;
Gair mawr am fwrw y gwr march,
A gafas pan fu gyfarch.
A gwympodd ef yn gampus,
I lawr ae aesawr yn us.
Ar ail brwydr bu grwydr brud,
A dryll i waew o drallid.
Cof cyfliw heddyw yw hyn,:
Canllaw brwydr can holl Brydyn.
Pobl Brydain yn druain draw,
Pob dryg-ddyn, pawb dioer rhagddaw,
Yn gweiddi megis gwydd-eifr,
Gyrrodd fil garw fu i Ddeifr.
Mawr fu'r llwybr drwy crwybr crau,
Blwyddyn yn porthi bleiddiau;
Ni thyfodd gwellt na thafol,
Hefyd na'r yd ar i ôl,
O Ferwig Seisnig i sail,
I'r Ysbwys, hydr fu'r ysbail.